Plaid Cymru
Bywgraffiad Myfanwy
English
> Hafan
> Newyddion
> Dyddiadur
> Ymgyrchoedd
> Amdanaf i
> Llanelli
> Dolenni
> Oriel Luniau
> Cysylltu
Facebook
Twitter Myfanwy Davies
You Tube
Cymru X
Plaid Cymru
Myfanwy Davies a Adam PriceMyfanwy Davies

Ganwyd Dr Myfanwy Davies yn Halifax, Gorllewin Swydd Efrog yn ystod gwyliau’r Nadolig 1975.

Daw o’r Ffwrnes ger Llanelli. Mae ei mam, Mari yn Gynghorydd Sir y Blaid dros ward yr Hengoed sy’n cynnwys Y Ffwrnes. Roedd Mari hefyd yn gadeiryddes Cyngor Gwledig Llanelli yn ystod  2008-09. Roedd tad Myfanwy Dic yn brif lyfrgellydd yn Llyfrgell Llanelli tan ei ymddeoliad.

Mae ei brawd, Owain wedi chwarae i Glwb Rygbi Crwydriaid Llanelli  a Chydweli ac mae’n awr yn gyfreithiwr dan hyfforddiant. Yn ddiweddar, fe wnaeth gwblhau taith seiclo elusennol o  Rio i Buenos Aires i godi arian tuag at ymchwil cancr i ddynion. Mae ei chwaer Gwyneth yn arbennigwraig mewn meddyginiaethau'r frest yn Ysbyty Singleton, Abertawe .

Addysgwyd Myfanwy yn Ysgol Dewi Sant, Ysgol y Strade a nifer o Brifysgolion. Bu’n ddarlithydd prifysgol (Univeristé d’Aix-Provence a Univeristé de Rouen). Ar hyn o bryd mae’n arwain tîm o ymchwilwyr gwasanaethau iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n rhannu ei hamser rhwng ei chartref yn Llanelli a’i gwaith yng Nghaerdydd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Myfanwy wedi ymgyrchu yn lwyddiannus gyda Jill Evans ASE i ddechrau achos yn erbyn llywodraeth y DU ynglŷn â  thorcyfraith yn ansawdd dwr yng Nhgulfor Tywyn  (Burry Inlet). Os bydd yr achos yn cael ei brofi’n gywir bydd yn hwb aruthrol i’r bobl leol hynny sy’n ymladd dros ddyfodol y diwydiant cocos ac sy’n ymgyrchu yn erbyn yr arfer o ollwng carthffosiaeth heb ei drin i’r  culfor yn rheolaidd.

Mae Myfanwy wedi ymgyrchu yn llwyddiannus hefyd gyda  Helen Mary Jones i achub tua chant o swyddi yng Ngholeg Sir Gâr ac mae wedi gweithio gyda Helen Mary i sicrhau cyllid am ganolfan arbenigol i drin cancr y fron yn ysbyty Llanelli.

Yn ddiweddar fe enillodd  Myfanwy gefnogaeth genedlaethol gan aelodau cynulliad Plaid Cymru am becyn o fesurau a fyddai’n helpu achub busnesau canol y dref - y rhai sydd dan fygythiad o’r datblygiadau manwerthu tu allan i’r dref a hefyd drwy golli swyddi cynhyrchu.

Mae manylion yr holl ymgyrchu yma, a mwy, ar y tudalennau newyddion .

Roedd Hilda, mam-gu ar ochr mam Myfanwy, yn ddaearyddwraig o Lerpwl. Cafodd ei magu yn eithaf llwm yn dilyn marwolaeth ei thad, a hi oedd y cyntaf o’r teulu i fynd i’r Brifysgol. Fe wnaeth Hilda ymddeol i Ddinbych y Pysgod ac roedd ymhlith y genhedlaeth gyntaf o ddysgwyr Cymraeg. Roedd tad-cu Myfanwy, Jack, ar ochr ei thad o  Randirmwyn ac yno mae’r teulu yn dal i ffermio heddiw. Yn ystod y 1930au anfonwyd Jack i weithio i Lundain ac yno fe ddaeth yn deiliwr gyda Burberry yn Bond St, yn gwneud siwt i Haile Selassie, dyn yr oedd ef yn edmygu yn fawr am ei amddiffyniad o   Ethiopia yn erbyn yr Eidal ffasgaidd, ac roedd hefyd yn cymeradwyo ei ymddangosiad trwsiadus. Daeth Jack yn gefnogwr i’r Blaid yn y 50au yn dilyn gweithred y Comisiwn Coedwigaeth yn cipio ffermydd yn Nyffryn Tywi i dyfu coed coniffer ‘er budd i’r genedl’. Mae’n debyg iddo ddweud’ cenedl pwy a budd pwy ‘ ?

Mae syniadaeth weidyddol Myfanwy yn ddeillio o’i magwraeth yn Llanelli. Mae’n cofio’n glir am y miloedd o lythyron diswyddo, a rhoddwyd i weithwyr dur Duport, a adawyd yn y strydoedd gan bobl a oedd dros nos yn gweld ei bywydau, yn ogystal â’u bywoliaeth wedi dryllio. Gwnaeth nifer o’r dynion hŷn byth weithio eto.

Ymunodd Myfanwy gyda’r Blaid yn 1989 ar ôl sylweddoli nad oedd gan y Blaid Lafur unrhyw ddiddordeb mewn amddiffyn ein cymunedau rhag gweithredoedd ffiaidd y llywodraethau Torïaidd, tra eu bod nhw'r, Blaid Lafur, yn gallu cymryd pleidleisiau pobl Llanelli yn ganiataol.

Mae Myfanwy yn noddwr Breakthro’ Llanelli, grŵp i bobl ifanc gydag anableddau.  Mae’n ysgrifenyddes Masnach Deg Llanelli sy’n ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion masnach deg. Mae hefyd yn aelod anrhydeddus o sefydliad y Merched Llwynhendy ac fe wnaeth hi fodelu yn ddiweddar i galendr arbennig i godi arian i Hosbis Llanelli

Mae Myfanwy yn hoffi coginio i’w ffrindiau ac yn hoff o wrando ar ystod eang iawn o gerddoriaeth Mae’n darllen bron iawn unrhyw beth ac yn mwynhau cerdded a threulio amser yng Nghefn Sidan a Pharc  Howard.

Mae diddordebau gwleidyddol Myfanwy yn yr economi,  iechyd a pholisïau cymdeithasol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn pensiynau , tai ac iawnderau’r anabl. 

© Myfanwy Davies - Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru yn Llanelli - Ar Eich Ochr Chi!
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA