Plaid Cymru
Hafan - Croeso
English
> Hafan
> Newyddion
> Dyddiadur
> Ymgyrchoedd
> Amdanaf i
> Llanelli
> Dolenni
> Oriel Luniau
> Cysylltu
Facebook
Twitter Myfanwy Davies
You Tube
Cymru X
Plaid Cymru
Myfanwy Davies a Adam PriceMyfanwy Davies

Croeso i’m gwefan. Gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i bobl Llanelli ddod i f’adnabod yn well ac i glywed am y gwaith rydw i’n gwneud fel ymgeisydd ac fel ymgyrchydd lleol. Wrth gwrs, cofiwch eich bod o hyd yn gallu cysylltu â mi drwy’r wefan yma.

Yn fuan fe fyddwn yn wynebu Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain. Fe ges i fy magu yn Llanelli yn yr 80au ac rwy’n cofio ond yn rhy dda yr effaith trychinebus y cafodd eu polisïau ar ein cymunedau ni. Nawr wrth nesáu at yr etholiad mae Gwleidyddion Torïaidd yn barod am y cyntaf yn brolio am dori cyllid ein gwasanaethau cyhoeddus lawr at yr asgwrn.

Mae nifer o bobl yn Llanelli yn dweud wrthyf eu bod wedi pleidleisio Llafur tro ar ôl tro ond i weld y Torïaid yn ennill. Rydym wedi cael blaenoriaethau Torïaidd ar bolisi, a pholisïau Torïaidd ar wario wedi’u gorfodi arnom ni.

Wedyn, nid yw llawer yn well o dan Lafur. Rydym eisoes wedi gweld difetha nifer fawr o swyddi da lleol, ac yn awr mae pobl sâl ac anabl yn cael eu bwlio i chwilio am swyddi nad yw’n bodoli.
Mae ein gweithwyr di-waith yn cael y bai am ddiweithdra ei hun, ac fe ddylai lefel pensiwn yr henoed gywilyddio’r aelodau seneddol hynny sy’n  byw bywydau reit fras!

ASau Llafur a bleidleisiodd i ddanfon pobl ifanc i ymladd mewn rhyfeloedd anghyfreithlon ymhell i ffwrdd. Yna ar ôl iddynt ddychwelyd, wedi’u  creithio gan frwydr, mae’r help sydd ar gael ymhell o fod yn ddigonol o gymharu â’u haberth hwy.

Mae pobl yn Llanelli yn grac fod y rhai a dderbyniodd eu pleidlais ar hyd y degawdau wedi methu yn llwyr i wneud safiad dros y gwerthoedd o undod a thegwch rydym yn eu rhannu.

Ond, fe wyddwn mewn gwirionedd nid am y Blaid Lafur y bydd yr etholiad nesaf. Mae wedi marw marwolaeth an-anrhydeddus- ac felly gwell yw gadael pethau fel yna!

Bydd yr etholiad nesaf ynglŷn â darganfod gwir lais Llanelli, rhywun a fydd yn gallu sefyll drosom i gyd gan wynebu tuag at ddeng mlynedd o doriadau Torïaidd. Nawr yn fwy nag erioed mae’n rhaid i ni amddiffyn ein cymunedau.

Meddyliwch am y peth.

Mae hon yn dref arbennig iawn ac mae cymaint ohonom mor falch i fod yn rhan ohoni ac yn gweithio drosti pob diwrnod. Dyma fy nhref i, yma fe’m magwyd ac yma mae fy nheulu yn byw. Rydw am weithio dros ein cymuned ni yn y San Steffan gan fy mod yn ei hadnabod ac yn ei charu.

Ni ddylai neb tanbrisio'r hyn allwn wneud os ydym yn gweithio gyda’n gilydd.

llofnod myfanwy davies

© Myfanwy Davies - Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru yn Llanelli - Ar Eich Ochr Chi!
Plaid Cymru

ARGRAFFWYD A HYRWYDDWYD GAN / PRINTED & PROMOTED BY:
Plaid Cymru, Ty Bres, Llanelli, Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire, SA15 1UA